Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 30 Ionawr 2020
Amser:
09.20 -
12.40
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5931
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AC (Cadeirydd) Andrew RT Davies AC Llyr Gruffydd AC Neil Hamilton AC Jenny Rathbone AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
Daniel Alchin, Energy UK Jenny Boyce, E.ON Crispin Jones, Arbed am Byth Rajni Nair, Cyngor ar Bopeth David Weatherall, Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Daniel Alchin, Energy UK; a Jenny Boyce, E.ON.
2.2 Cytunodd E.ON i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor yn rhoi manylion am yr Awdurdodau Lleol yng Nghymru y mae ganddynt berthynas â hwy.
2.3 Cytunodd Energy UK i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor yn amlinellu’r berthynas a’r partneriaethau sydd gan eu haelodau â rhanddeiliaid yng Nghymru.
3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Crispin Jones, Arbed am Byth; Rajni Nair, Cyngor ar Bopeth; a David Weatherall, Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.
3.2 Cytunodd yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni i gysylltu â Nwy Prydain i ddarparu rhagor o fanylion i’r Pwyllgor am gyflwyno’r cynllun Nyth.
4.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.
5.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw.
6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3.
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân newidiadau.